Hunanofal: Dull Bwdhaidd o Lesio
Mae teimlo wedi blino’n lân neu flinedig yn brofiad cyffredin y dyddiau hyn, yn enwedig pan fo’n rhaid i ni flaenoriaethu anghenion eraill dros ein rhai ni. Yn y pen draw, os nad ydym yn gofalu amdanom ein hunain yn effeithiol nid ydym mewn sefyllfa i ofalu am unrhyw un arall. Trwy hyfforddiant mewn myfyrdod gallwn ddysgu sut i amddiffyn a gofalu am ein hapusrwydd a lles ein hunain, tra ar yr un pryd fod o fudd i eraill.
Yn ystod y cwrs codi calon hwn byddwch yn dysgu dulliau myfyrdod ymarferol, a ddysgwyd gan Bwdha, i feithrin bodlonrwydd a lles mewnol sy'n rhoi egni newydd i ni - i ni ein hunain ac i eraill. Addas ar gyfer pob lefel o brofiad - croeso i bawb.




