
Springfield, Ffynone Road, Uplands, Abertawe SA1 6DE
01792 458245/ebost
Rhif Elusen Gofrestredig: 1039234


Mwynhewch benwythnos ymlaciol o fyfyrdod a chyngor ymarferol dan arweiniad Kadam Paul Jenkins. Ar yr encil penwythnos hwn, darganfyddwch yr heddwch a'r bodlonrwydd mewnol sydd yn eich meddwl eich hun. Trwy fyfyrdodau Bwdhaidd tragwyddol ar ddatblygu calon dda, byddwch yn datblygu meddwl gwerthfawr cariad, ac yn mynd â'r meddwl hardd hwn adref gyda chi. Mae cariad yn gwneud ein meddwl yn heddychlon, yn hamddenol ac yn llawen. Fel y dywed yr Hybarch Geshe Kelsang Gyatso, 'Mae calon dda bob amser yn rhoi canlyniadau da'.
Y lleoliad yw Thornby Hall, Swydd Northampton - tÅ· hanesyddol hardd wedi'i amgylchynu gan 17 erw o diroedd a gerddi hudolus, llyn a llwybrau cerdded coetir. Mae'r llety mewn ystafelloedd sengl a dwbl en-suite o safon uchel ac mae'r holl brydau wedi'u cynnwys.
Mae'r cwrs yn dechrau gyda swper nos Wener ac yn gorffen gyda chinio ar y Sul ac yn cynnwys amser rhwng sesiynau i fwynhau'r caffi a theithiau cerdded cefn gwlad. Ymgollwch mewn myfyrdod a chymryd saib o'ch bywyd arferol - byddwch yn dod i ffwrdd wedi'ch adfywio a'ch ysbryd wedi codi. Mae croeso i bawb – dim angen unrhyw brofiad blaenorol o fyfyrdod.



Roedd yr encil yn Thornby Hall yn brofiad dwys iawn i mi. Roedd yn wych myfyrio gyda grŵp mawr o bobl ac roeddwn yn gallu gofyn cwestiynau a sylweddoli fy mod yn rhan o grŵp o bobl yn ymarfer gyda'n gilydd. Newidiodd y profiad cyfan fy ymarfer pan ddes i adref.
Rick Wilson
Nos Wener 27 Mawrth i Amser Cinio Dydd Sul 29 Mawrth
Ensuite sengl £190
Ensuite dwbl £340
Ystafell sengl gyda ystafell ymolchi wedi ei rhannu £160
Ystafell gysgu (3 o bobl) £110
Fan wersylla £90
Dibreswyl £85
(mae'r prisiau'n cynnwys ffi'r cwrs, llety a phrydau bwyd)
Neuadd Thornby*
Naseby Road, Thornby, Swydd Northampton NN6 8SW
* os oes angen cludiant arnoch i'r encil, rhowch wybod i ni a gallwn weld sut y gallwn helpu
Encil preswyl gyda 6 sesiwn dan arweiniad. Yn dechrau gyda swper nos Wener ac yn gorffen gyda chinio ar y Sul.

Kadam Paul Jenkins yw athro preswyl CMK Cymru yn Abertawe. Mae'n fyfyriwr ymroddedig i Geshe Kelsang Gyatso sydd wedi bod yn astudio ac yn dysgu Bwdhaeth Kadampa ers dros 30 mlynedd. Mae ganddo brofiad ymarferol o integreiddio Bwdhaeth Fodern o fewn bywyd teuluol prysur, proffesiynol a gall rannu hyn trwy eglurder a chynhesrwydd ei ddysgeidiaeth.
Mae'r opsiynau llety yn Thornby Hall yn cynnwys sengl a dwbl en-suite, ystafelloedd sengl gydag ystafell ymolchi a rennir ac ystafelloedd cysgu ar gyfer tri o bobl. Mae nifer o'r ystafelloedd yn y bloc stablau a gwblhawyd yn ddiweddar ac mae rhai ym mhrif ran yr adeilad lle mae'r ystafell fwyta hefyd. Mae yna hefyd opsiwn fan wersylla ar gyfer y rhai sy'n dymuno dod a'i cartef gyda nhw!



Nodwch os gwelwch yn dda:
– mae ffioedd yn cynnwys addysgu, llety a phrydau bwyd
– am ganslo rhwng dydd Llun 23 Mawrth a dydd Iau 26 Mawrth rhoddir ad-daliad 50%
– am ganslo ar ddydd Gwener 27 Mawrth mae'r ffi lawn yn ddyledus
– mae pris yr ystafell ddwbwl ar gyfer 2 berson – ychwanegwch yn y blwch isod enw’r sawl sy’n rhannu gyda chi


Port Talbot 