
Springfield, Ffynone Road, Uplands, Abertawe SA1 6DE
01792 458245/ebost
Rhif Elusen Gofrestredig: 1039234

Mwynhewch benwythnos hamddenol o fyfyrdod a chyngor ymarferol dan arweiniad Kadam Paul Jenkins.
Y lleoliad yw Thornby Hall, Swydd Northampton - tŷ hanesyddol hardd wedi'i amgylchynu gan 17 erw o diroedd a gerddi hudolus, llyn a llwybrau cerdded coetir. Mae'r llety mewn ystafelloedd sengl a dwbl en-suite o safon uchel ac mae'r holl brydau wedi'u cynnwys.
Mae'r cwrs yn dechrau gyda swper nos Wener ac yn gorffen gyda chinio ar y Sul ac yn cynnwys amser rhwng sesiynau i fwynhau'r caffi a theithiau cerdded cefn gwlad. Ymgollwch mewn myfyrdod a chymryd saib o'ch bywyd arferol - byddwch yn dod i ffwrdd wedi'ch adfywio a'ch ysbryd wedi codi. Mae croeso i bawb – dim angen unrhyw brofiad blaenorol o fyfyrdod.
Roedd yr encil yn Thornby Hall yn brofiad dwys iawn i mi. Roedd yn wych myfyrio gyda grŵp mawr o bobl ac roeddwn yn gallu gofyn cwestiynau a sylweddoli fy mod yn rhan o grŵp o bobl yn ymarfer gyda'n gilydd. Newidiodd y profiad cyfan fy ymarfer pan ddes i adref.
Rick Wilson
Nos Wener 4ydd Ebrill i amser cinio Dydd Sul 6ed Ebrill
Ensuite sengl £190
Ensuite dwbl £340
Ystafell sengl gyda ystafell ymolchi wedi ei rhannu £160
Ystafell gysgu (3 o bobl) £110
Fan wersylla £90
Dibreswyl £85
(mae'r prisiau'n cynnwys ffi'r cwrs, llety a phrydau bwyd)
Neuadd Thornby*
Naseby Road, Thornby, Swydd Northampton NN6 8SW
* os oes angen cludiant arnoch i'r encil, rhowch wybod i ni a gallwn weld sut y gallwn helpu
Encil preswyl gyda 6 sesiwn dan arweiniad. Yn dechrau gyda swper nos Wener ac yn gorffen gyda chinio ar y Sul.
Kadam Paul Jenkins yw athro preswyl CMK Cymru yn Abertawe. Mae'n fyfyriwr ymroddedig i Geshe Kelsang Gyatso sydd wedi bod yn astudio ac yn dysgu Bwdhaeth Kadampa ers dros 30 mlynedd. Mae ganddo brofiad ymarferol o integreiddio Bwdhaeth Fodern o fewn bywyd teuluol prysur, proffesiynol a gall rannu hyn trwy eglurder a chynhesrwydd ei ddysgeidiaeth.
Mae'r opsiynau llety yn Thornby Hall yn cynnwys sengl a dwbl en-suite, ystafelloedd sengl gydag ystafell ymolchi a rennir ac ystafelloedd cysgu ar gyfer tri o bobl. Mae nifer o'r ystafelloedd yn y bloc stablau a gwblhawyd yn ddiweddar ac mae rhai ym mhrif ran yr adeilad lle mae'r ystafell fwyta hefyd. Mae yna hefyd opsiwn fan wersylla ar gyfer y rhai sy'n dymuno dod a'i cartef gyda nhw!
Nodwch os gwelwch yn dda:
– mae ffioedd yn cynnwys addysgu, llety a phrydau bwyd
– os bydd angen canslo rhwng dydd Llun 31 Mawrth a dydd Iau Ebrill 3ydd rhoddir ad-daliad o 50%
– os bydd angen canslo ar ddydd Gwener 4 Ebrill bydd ffi lawn yn ddyledus
– mae pris yr ystafell ddwbwl ar gyfer 2 berson – ychwanegwch yn y blwch isod enw’r sawl sy’n rhannu gyda chi