Cyfres Tair Wythnos yn ABERTEIFI Yn dechrau Dydd Llun 17eg Mawrth
Dod o Hyd i Heddwch yn Ein Bywydau Prysur
Mae ein bywydau modern, prysur yn aml yn llawn straen ac yn llawn heriau. Trwy ymarfer myfyrdod gallwn ddysgu datblygu meddyliau heddychlon sy'n ein helpu i ymdopi â'r straen hwn ac i ddod yn hapusach ac yn fwy bodlon.
Mae'r gyfres hon o dri dosbarth myfyrdod yn berffaith i unrhyw un sydd am ddechrau neu adnewyddu eu hymarfer myfyrdod.