Doethineb o Ddiflannu'r Hunan
Nid oes dim yn y byd hwn sy'n fwy ystyrlon nac yn ddefnyddiol o safbwynt ysbrydol na thyfu ein dealltwriaeth o wir natur realiti. Trwy fod yn gyfarwydd â'r ddysgeidiaeth hon gallwn ddatrys ein holl broblemau o'r diwedd - ni waeth pa mor anhydrin y maent yn ymddangos yn awr - a helpu eraill i wneud yr un peth.
Dysgodd Bwdha mai gwacter, 'emptiness', yw'r ffordd y mae pethau yn bodoli mewn gwirionedd. Dyma'r ffordd y mae pethau'n bodoli yn hytrach na'r ffordd y maent yn ymddangos i ni.
Yn gyffredinol, pan mae thywbeth yn wag mae hyn yn golygu diffyg rhywbeth, ac mae’n hawdd camddehongli’n union beth mae Bwdha yn ei ddweud drwy egluro beth yw gwacter. Gwrthrych cywir sy'n cael ei negyddu gan wacter yw'r 'pethau yr ydym fel arfer yn eu gweld neu'n eu canfod'. Pan fydd Bwdha yn dysgu doethineb dim hunan, nid yw hyn yn golygu nad yw ein hunain yn bodoli! Mae pob ffenomen yn bodoli ond mae'r ffordd y maent yn bodoli dim ond fel enw yn unig.
Ymunwch â ni ar gyfer y cwrs hanner diwrnod hwn dan arweiniad Kadam Paul – mae croeso i bawb. Dyma gyfle gwerthfawr i ddarganfod sut i fyfyrio’n gywir ac effeithiol ar y gwirionedd fydd yn rhyddhau ni o bob poen, gyda’r athro breswyl Kadam Paul Jenkins. Mae croeso i bawb.




