Gweddiau dros Heddwch y Byd
Mae pawb eisiau gweld heddwch byd, ond heb ddatblygu heddwch mewnol yn gyntaf, mae heddwch allanol yn amhosibl. Ymunwch â ni ar gyfer Gweddïau dros Heddwch y Byd, sy’n cynnwys myfyrdod ar yr anadl i ymlacio y meddwl, dysgeidiaeth fer ar dyfu ein heddwch mewnol a gweddïau llafarganu hardd gyda lle ar gyfer myfyrdod tawel. Mae croeso i bawb.
'Mae nerth ein gweddïau yn dibynnu ar gryfder a phurdeb ein bwriad. Os oes gennym gymhelliant gwirioneddol dosturiol, bydd ein gweddïau yn bendant yn effeithiol' – Hybarch Geshe Kelsang Gyatso.