Dosbarthiadau Myfyrdod

– drwy gyfrwng y Gymraeg
Bore Sul yn Fisol

Cyfle i ddysgu sut i fyfyrio a'r gallu i ddatblygu meddwl heddychlon.

Yn ôl dysgeidiaeth Bwdha, dim ond pan fyddwn yn ymateb i anawsterau gyda meddwl negyddol y mae problemau yn codi. Trwy hyfforddi mewn myfyrdod gallwn ddatblygu'r gallu i ymateb i anawsterau mewn ffordd bositif a heddychlon ac o ganlyniad dod yn berson hapusach gyda'r gallu i helpu eraill yn fwy effeithiol.

Pryd

Bore Sul

11yb i 12yp

Gweler isod am y dyddiadau

Pris

£6

Am ddim i bob aelod

Lleoliad

Mewn person yn KMC Cymru ac ar-lein i aelodau

Strwythur y Dosbarth

Mae'r dosbarthiadau'n cynnwys myfyrdod gyda chanllawiau o ddysgeidiaethau Bwdha ar sut i gynnal meddwl heddychlon yn ein bywydau prysur.

Athro

Kadam Paul Jenkins

Y Prif Athro yn KMC Cymru yw Kadam Paul Jenkins. Yn fyfyriwr ymroddedig o Geshe Kelsang Gyatso, mae Kadam Paul wedi bod yn astudio ac yn addysgu Bwdhaeth Kadampa ers dros 30 mlynedd. Mae ganddo brofiad ymarferol o integreiddio Bwdhaeth Fodern i fywyd teuluol a phroffesiynol prysur, ac mae'n gallu rhannu hyn gydag eglurder a chynhesrwydd yn ei ddysgeidiaeth.

Cymraeg