Y Llonyddwch O Fewn
- taith i heddwch mewnol
gyda Gen-la Kelsang Khyenrab
Dysgwch sut i osod sylfeini ymarfer myfyrio llwyddiannus a sut i feithrin tawelwch mewnol trwy ddatblygu pŵer eich meddwl.
Mae’n bleser gennym groesawu athrawes fyfyrio Kadampa rhyngwladol Gen-la Kelsang Khyenrab i KMC Cymru ar gyfer y cwrs diwrnod arbennig hwn. Trwy ei ddysgeidiaeth glir ac ysbrydoledig cewch eich arwain i ddarganfod y potensial yn eich meddwl ar gyfer llonyddwch mewnol, ffocws, eglurder a chryfder. Nid oes ffordd well o brofi heddwch meddwl dwfn, ac nid oes unrhyw ffordd sicrach o ddod o hyd i hapusrwydd sefydlog a pharhaol na datblygu ein hymarfer myfyrio. Yn addas ar gyfer pob lefel o brofiad – croeso i bawb.