Y Gelfyddyd o Ddatblygu Amynedd

Mewn byd cyflym sy'n llawn straen a heriau, mae amynedd yn sgil prin a phwerus. Ymunwch â ni ar gyfer y cwrs myfyrdod hanner diwrnod hwn, lle byddwn yn edrych a'r y gelfyddyd drawsnewidiol o ddatblygu amynedd a darganfod sut y gall ddod ag eglurder, heddwch a gwytnwch i'n bywydau bob dydd.

Dan arweiniad athro profiadol Kadam Paul Jenkins, mae’r cwrs hwn yn cynnig offer ymarferol i’ch helpu i wynebu anawsterau bywyd gyda doethineb a heddwch, gan feithrin ymdeimlad dwfn o les a hapusrwydd.

P'un a ydych yn newydd i fyfyrdod neu'n awyddus i ddyfnhau eich ymarfer, mae'r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy'n ceisio byw bywyd mwy cytûn a llawen.

Pryd

Dydd Sadwrn Mawrth 15fed

10am i 1pm

Pris

£18

Am ddim ar gyfer lefelau aelodaeth: safonol, astudio a chymwynaswr

Lle

Canolfan Gymunedol Bloomfield, Redstone Rd, Arberth, SA67 7ES

Strwythur y Cwrs

Mae'r cwrs yn cynnwys myfyrdodau dan arweiniad ynghyd â dysgeidiaeth yn ymwneud â theitl y cwrs. Yn addas i bawb

Athro
Kadam Paul Jenkins

Athro Preswyl CMK Cymru yw Kadam Paul Jenkins. Yn fyfyriwr ymroddedig o Geshe Kelsang Gyatso, mae Kadam Paul wedi bod yn astudio ac yn dysgu Bwdhaeth Kadampa ers dros 30 mlynedd. Mae ganddo brofiad ymarferol o integreiddio Bwdhaeth Fodern o fewn bywyd teuluol prysur, proffesiynol a gall rannu hyn trwy eglurder a chynhesrwydd ei ddysgeidiaeth.

Map a Manylion Teithio

Cyfeiriad

Canolfan Gymunedol Bloomfield, Redstone Rd, Arberth, SA67 7ES

Tren

Mae gorsaf drenau Arberth 20 munud ar droed o’r Ganolfan Gymunedol

Bysiau

Mae pob llwybr bws sy'n gwasanaethu canol tref Arberth o fewn pellter cerdded i'r Ganolfan Gymunedol

Parcio

Mae maes parcio ar gael yn y Ganolfan Gymunedol

Cymraeg