Dysgu i Fyfyrio
Rhowch ddechrau gwych i'ch blwyddyn trwy ddysgu'r sylfeini ar gyfer ymarfer myfyrdod llwyddiannus. Os yw ein meddwl yn heddychlon, byddwn yn rhydd oddi wrth ofidiau ac anghysur meddwl, a byddwn yn profi gwir hapusrwydd. Os byddwn yn hyfforddi mewn myfyrdod, bydd ein meddwl yn raddol yn dod yn fwy ac yn fwy heddychlon, a byddwn yn profi ffurf purach a phurach o hapusrwydd. Mae’r cwrs hanner diwrnod hwn yn cael ei addysgu gan yr athrawes Kadampa brofiadol Sue Jenkins ac mae’n addas ar gyfer dechreuwyr ac ar gyfer y rhai sydd am adnewyddu eu hymarfer myfyrio..
“Pan fydd cynnwrf meddyliau gwrthdyniadol yn ymsuddo a'n meddwl yn llonydd, mae hapusrwydd a bodlonrwydd dwfn yn codi'n naturiol o'r tu mewn. Mae’r teimlad hwn o fodlonrwydd a llesiant yn ein helpu i ymdopi â phrysurdeb ac anawsterau bywyd bob dydd.” ~ Hybarch Geshe Kelsang Gyatso
**Mae mynediad ar-lein ar gael trwy ein haelodaeth – talwch £8 am y mis cyntaf, £27.50 wedi hynny – CANSLO AR UNRHYW ADEG